Rhai o'r miloedd o blismyn ar ddyletswydd yn Notting Hill heddiw (Sean Dempsey/Gwifren PA)
Mae mwy nag erioed o blismyn wedi bod ar ddyletswydd yng ngharnifal Notting Hill yn Llundain eleni wrth i drefniadau diogelwch llym gael eu rhoi ar waith.

Roedd dros 6,500 o blismyn yno ar ail ddiwrnod y carnifal heddiw, fil yn fwy na ddoe. Yn ogystal, mae 4,000 o blismyn ychwanegol wedi chwyddo rhengoedd yr heddlu mewn mannau eraill yn Llundain.

Gydag enw da Llundain yn y fantol wedi’r terfysgoedd yn gynharach y mis, mae Scotland Yard wedi bod wrthi’n drylwyr yn rhoi trefniadau diogelwch ar waith.

Er bod cyfanswm o 154 o bobl wedi cael eu harestio yn ystod ddoe a heddiw, ar gyhuddiadau’n cynnwys bod â chyffuriau yn eu meddiant, troseddau’n ymwneud â’r drefn gyhoeddus, dwyn, difrod troseddol ac ymosod, mae’r ŵyl stryd fwyaf yn Ewrop wedi bod yn heddychlon ar y cyfan.

Roedd y trefniadau diogelwch yn cynnwys arestio 40 o bobl ymlaen llaw yr wythnos ddiwethaf, a dod i gytundeb gyda’r trefnwyr ar orffen y carnifal ynghynt.

Stopio a chwilio

Cafodd gorchymyn Adran 60 hefyd ei roi ar waith, sy’n galluogi’r heddlu i chwilio unigolion er mwyn rhwystro trais difrifol, a gorchymyn AA Adran 60, sy’n rhoi’r grym i’r heddlu i orfodi unrhyw berson i ddiosg eitemau sy’n cuddio pwy ydyn nhw.

“Trwy stopio a chwilio effeithiol, credwn ein bod ni wedi atal helyntion rhag digwydd,” meddai’r Commander Steve Rodhouse o Heddlu Llundain.

“Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda stiwardiaid y digwyddiad yma sy’n rhan mor bwysig o galendr y brifddinas ac wedi cael cefnogaeth anferthol gan bawb sydd wedi cymryd rhan yn y carnifal i orffen ynghynt.”