Fe fu’n rhaid achub 80 o nofwyr a gafodd eu hysgubo allan i’r môr wrth nofio i godi arian … at yr RNLI.
Fe brofodd ceryntoedd cryf y llanw’n rhy gryf i’r mwyafrif o gystadleuwyr mewn ras 2.4 milltir yn Joss Bay, Broadstairs, Caint, ddoe.
Meddai Peter Barker, o orsaf bad achub RNLI Margate:
“Roedd ein bad achub ym Margate allan yn ymarfer yn y cyffiniau pan ddaeth hi’n amlwg fod amryw o nofwyr yn cael anawsterau wrth nofio yn erbyn y llanw. Fe aethon ni i godi’r nofwyr ac ni chafwyd unrhyw anafiadau na phroblemau.”