Terfysg Llundain (Lewis Whyld/PA Wire)
Mae dau ddyn wedi eu carcharu am bedair blynedd yr un am geisio annog terfysg ar wefan Facebook.

Er nad oedd eu negeseuon wedi arwain at unrhyw derfysg mewn gwirionedd, maen nhw wedi derbyn dedfrydau hirach nag unrhyw un oedd wedi chwarae rhan yn y terfysg, hyd yma.

Clywodd Llys y Goron Caer ddoe fod Jordan Blackshaw, 20, a Perry Sutcliffe-Keenan, 22, wedi creu tudalennau Facebook oedd yn annog terfysg yn eu trefi.

Roedd Jordan Blackshaw, o Northwich yn y sir, wedi creu digwyddiad o’r enw ‘Smash Down Northwich Town’.

Roedd Perry Sutcliffe-Keenan hefyd wedi creu ei dudalen ei hun ar y wefan rwydweithio gymdeithasol, dan yr enw ‘Let’s Have a Riot in Latchford’.

Plediodd y ddau yn euog i geisio annog pobol eraill i droseddu, meddai Gwasanaeth Erlyn y Goron. Doedd yr un o’r ddau wedi cymryd rhan yn y terfysg eu hunain.

Dywedodd Martin McRobb, Eiriolwr y Goron ar ran Gwasanaeth Erlyn Glannau Merswy a Swydd Gaer, fod y tudalennau wedi achosi “braw a phryder” i bobol Swydd Gaer.

“Roedd y ddau wedi defnyddio Facebook er mwyn ceisio trefnu a hybu terfysg difrifol ar adeg pan oedd anhrefn o’r fath yn mynd rhagddo mewn rhannau eraill o’r wlad.”

Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, ddoe y byddai pobol gymerodd ran yn y terfysg yn cael eu gorfodi i wisgo siwtiau oren a glanhau’r ardaloedd rheini gafodd eu difrodi.