Prifysgol Aberystwyth
Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yw’r mwyaf bodlon yng Nghymru unwaith eto, yn ôl yr arolwg diweddaraf.
Ond roedd cwymp ym modlondeb myfyrwyr y Brifysgol, gyda dim ond 89% yn dweud eu bod nhw’n fodlon eleni o’i gymharu â 92% y llynedd.
Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol blynyddol y Myfyrwyr yn awgrymu fod cynnydd bychan wedi bod ym modlondeb myfyrwyr Cymru yn ei gyfanrwydd.
Roedd 81% ar gyfartaledd yn fodlon y llynedd, tra bod 83% ar gyfartaledd yn fodlon eleni, yr un canran a’r cyfartaledd ar draws Prydain.
Prifysgol Bangor a Chaerdydd sy’n gydradd ail ar 86%, sef yr un nifer oedd yn dweud eu bod nhw’n fodlon â’u cyrsiau’r llynedd.
Mae’r tair prifysgol yn bwriadu codi £9,000 ar fyfyrwyr i astudio yno o’r flwyddyn nesaf ymlaen a bydd pwysau arnynt i ddangos fod profiad myfyrwyr yn gwella o ganlyniad i hynny.
Prifysgol Casnewydd sydd ar waelod y pentwr yng Nghymru – dim ond 76% oedd yn fodlon, er bod hynny’n gynnydd mawr ar y 72% ddywedodd yr un peth y llynedd.
Prifysgolion Aberystwyth ag Abertawe yw’r unig rai sydd wedi gweld cwymp ym modlondeb eu myfyrwyr.
Prifysgol | 2010 | 2011 |
Aberystwyth | 92% | 89% |
Bangor | 86% | 86% |
Caerdydd | 86% | 86% |
UWIC | 82% | 82% |
Abertawe | 84% | 82% |
Morgannwg | 78% | 81% |
Y Drindod Dewi Sant | 78% | 81% |
Glyndwr (Wrecsam) | 74% | 79% |
Cerddoriaeth a Drama | 79% | 79% |
Met Abertawe | 77% | 79% |
Casnewydd | 72% | 76% |
Mae boddhad ymhlith myfyrwyr llawn-amser wedi dangos rhywfaint o gynnydd yn 2011.
Gwelwyd cynnydd yn lefel boddhad myfyrwyr rhan-amser mewn sawl categori, er eu bod yn llai bodlon â’u hadnoddau dysgu o gymharu â myfyrwyr llawn-amser.
Y meysydd a welodd y cynnydd mwyaf mewn lefelau boddhad ers 2005 oedd asesu ac adborth a chymorth academaidd, er fod asesu ac adborth yn parhau i fod ychydig is na lefelau Prydain yn ei gyfanrwydd.
Roedd myfyrwyr ar gyrsiau a noddir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn arbennig o fodlon, o’i gymharu â’r ffigur ar gyfer Prydain yn gyffredinol, gydag 89% yn fodlon â’u lleoliad ymarfer, o’i gymharu ag 84% ar draws Prydain.
Ymateb
“Mae disgwyliadau myfyrwyr o brifysgolion a cholegau yn uwch nag erioed,” meddai Luke Young, Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.
“Rhaid i sefydliadau fod yn rhagweithiol a gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr er mwyn darparu profiad myfyrwyr sy’n ardderchog ym mhob agwedd.
“Dylai hyn gynnwys deialog agored ynglŷn â materion megis asesu ac adborth, sydd eto i gyrraedd lefel dderbyniol.
“Wrth i fwy o fyfyrwyr ystyried astudio rhan-amser, mae’n hanofodl i sefydliadau gydnabod fod cyfleusterau a gwybodaeth yn aml wedi eu teilwra ar gyfer myfyrwyr llawn-amser ac nid ydynt yn cwrdd ag anghenion myfyrwyr rhan-amser. Mae angen mwy o hyblygrwydd, a hynny ar frys.”
Dywedodd yr Athro Philip Gummett, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fod y canlyniadau yn “dystiolaeth o ba mor ddifrifol ‘rydym yn ymdrin â phrofiad myfyrwyr yng Nghymru”.
“Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gyfer 2011 yn dangos fod prifysgolion yng Nghymru yn parhau i ddarparu cyrsiau sy’n sicrhau lefel uchel o foddhad ymhlith myfyrwyr,” meddai.
“Ers i’r arolwg ddechrau, mae wedi dangos fod myfyrwyr yn mynd yn fwyfwy bodlon â sawl agwedd o’u profiad, megis cymorth academaidd, trefn a rheolaeth eu cyrsiau.
“Rydym yn falch o weld y cynnydd yn y lefel boddhad mewn asesu ac adborth, er fod yno rywfaint o ffordd i fynd. ‘Rydym yn croesawu’r cynnydd mewn boddhad ymhlith myfyrwyr rhan-amser, sy’n profi fod Cymru’n gallu ymateb i ofynion amrywiaeth o ddysgwyr. Byddwn yn edrych ar y canlyniadau gyda’r sector er mwyn parhau i wella profiad myfyrwyr yng Nghymru.”
Dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru ei fod “yn hanfodol bwysig fod prifysgolion yn dysgu oddi wrth, ac yn adeiladu ar, y canlyniadau hyn”.
“Mae’r canlyniadau cadarnhaol hyn yn dangos fod prifysgolion yn cynnal eu lefelau uchel o foddhad myfyrwyr, a gwelwyd gwelliannau pellach mewn meysydd allweddol.
“Mae’n bleser gen i nodi, parthed â’r rhan fwyaf o gwestiynau, fod boddhad myfyrwyr yn uwch nag yn arolwg llynedd.
“O edrych ar dueddiadau mwy hir-dymor, ‘rydym wedi gweld gwelliant cyson a sylweddol yng nghanfyddiad myfyrwyr o ansawdd dysgu, cymorth academaidd, asesu, adborth, a rheolaeth cyrsiau yn ein prifysgolion.
“Mae’n bwysig sicrhau fod y garfan nesaf o fyfyrwyr yn manteisio ar adborth a ddarparwyd gan eu cyfoedion eleni.
“Mae prifysgolion yng Nghymru yn ymgysylltu â’r Academi Addysg Uwch parthed â’u gwaith Cyfeiriadau at y Dyfodol ‘Myfyrwyr fel Partneriaid’ er mwyn darparu gwell perfformiad drwy ymgysylltiad pellach â myfyrwyr.”