Mae dyn o Brydain oedd ar ei fis mêl wedi ei ladd gan siarc yng Nghefnfor India.

Dywedodd y Swyddfa Dramor fod Ian Martin Redmond, 30 oed, o Swydd Gaerhirfryn, wedi marw yn y Seychelles.

“Rydyn ni’n darparu cymorth consylaidd i’w berthnasau agosaf,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.

Cadarnhaodd yr heddlu fod y dyn wedi ei ladd ar draeth Anse Lazio, yn ardal Baie Sainte Anne ynys Praslin.

Mae teulu Ian Martin Redmond ar eu ffordd i’r Seychelles yn dilyn yr ymosodiad.

Ail ymosodiad

Dywedodd gweithwyr yn y gwesty pum seren yr oedden nhw’n aros ynddo fod y dyn ar wyliau yno gyda’i wraig.

Dywedodd Chantal Andre, sy’n gweithio mewn bwyty ar draeth Anse Lazio, ei bod hi wedi gweld yr ymosodiad yn digwydd.

Mewn cyfweliad â’r Daily Mail dywedodd nad oedd gwraig y dyn wedi crio a’i bod hi i weld mewn sioc lwyr wrth deithio i’r ysbyty.

Yn ôl Jeanne Vargiolu, 56, perchennog bwyty Le Chevalier ar y traeth, roedd y dyn wedi colli un fraich a rhan o’i goes ac roedd ganddo dyllau yn ei frest a’i stumog.

“Fe glywais i’r wraig yn siarad â thua pump o bobol, gan ddweud ei bod hi’n gobeithio ei fod yn dal yn fyw,” meddai.

Yn ôl adroddiadau fe fuodd dyn 36 oed o Ffrainc farw ar 1 Awst ar ôl ymosodiad arall gan siarc.

Dywedodd Jeanne Vargiolu ei fod wedi byw ar y traeth ers degawdau ac nad oedd wedi gweld siarc yn ymosod ar unrhyw un cyn mis Awst eleni.