Ed Balls
Mae Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o “dagu’r bywyd allan o’r adferiad economaidd”.
Mynnodd y dylai’r Canghellor, George Osborne, rhoi hwb i’r economi drwy ostwng cynnydd Treth ar Werth mis Ionawr.
Daw ei sylwadau wedi iddi ddod i’r amlwg mai dim ond 0.2% y tyfodd yr economi yn ail chwarter 2011.
“Yn ystod cyfnod o ansicrwydd byd-eang, mae penderfyniad byrbwyll George Osborne i godi Treth ar Werth ym mis Ionawr wedi dinistrio hyder cwsmeriaid,” meddai.
“Dyw’r economi heb dyfu dim gwerth ers iddo gyhoeddi ei fod yn bwriadu torri’n ôl yn gynt nag unrhyw economi arall yn y byd ym mis Hydref.
“Mae wedi tanseilio’r adferiad economaidd wrth i ni wynebu argyfwng ariannol o barth yr ewro ac yr Unol Daleithiau.
“Fe fydd Prydain mewn twll os ydi pethau yn dechrau mynd o’i le unwaith eto.
“Yn hytrach na gwneud esgusion fel ‘gormod o eira yn y gaeaf’ a ‘gormod o haul yn y gwanwyn’ mae’n rhaid i George Osborne sylweddoli mai ef yn unig sydd ar fai am y penderfyniadau a wnaethpwyd blwyddyn yn ôl.”
Twf yw twf
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, nad oedd yn siomedig â’r twf araf.
“Dyw e ddim yn dwf ysblennydd, a dyw hynny ddim yn syndod o ystyried y problemau sydd yn ein hwynebu ni,” meddai.
“Rydyn ni’n parhau i fynd i’r afael â’r problemau achoswyd gan yr argyfwng bancio a’r dirwasgiad.
“Mae safonau byw wedi eu gwasgu ond rydyn ni wedi dechrau gosod y seiliau ar gyfer twf hirdymor a cynaliadwy.”
Wfftiodd galwad y Blaid Lafur am gynllun amgen er mwyn cyflymu’r adferiad economaidd.
“Mae’r Llywodraeth wedi ei gwneud hi’n glir fod gennym ni gynllun penodol sef cael gwared ar y diffyg ariannol yn ystod cyfnod y senedd yma.
“Does yna ddim angen cynllun arall. Rhaid i ni gadw at ein haddewid i leihau’r diffyg ariannol.”