Mae’r Crusaders wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu tynnu allan o bencampwriaeth rygbi Cynghrair y Super League ar ddiwedd y tymor.

Ni fydd y clwb o Wrecsam yn chwarae yn y gynghrair am y tri thymor nesaf wedi iddynt dynnu eu cais am drwydded i chwarae yn ôl.

Roedd y Rugby Football League ar fin cyhoeddi’r 14 tîm fyddai’n cael eu derbyn ar gyfer tymhorau 2012-2014 heddiw yn Old Trafford, Manceinion.

Roedd disgwyl i’r Wakefield Wildcats golli eu safle er mwyn gwneud lle i Widnes, gafodd ddyrchafiad o’r bencampwriaeth a chaniatâd i ymuno a’r Super League ar gyfer y tymor nesaf.

Mae’n aneglur ar hyn o bryd os yw’r penderfyniad hwn gan y Crusaders wedi’i wneud yn sgil cael eu gadael allan gan y gynghrair, neu os yw’n benderfyniad unigol.

Roedd y penderfyniad am bwy fyddai’n cael parhau yn y gynghrair yn cael ei wneud ar sail nifer o feini prawf yn ymwneud â chyllid, y stadiwm, cefnogwyr, a safon y chwarae.

Esbonio

Mae’r penderfyniad munud olaf gan berchnogion y clwb, Geoff Moss ac Ian Roberts, yn golygu na fydd y clwb yn chwarae yn y Super League y tymor nesaf ac na fyddent yn cael lle chwaith yng nghynghrair y bencampwriaeth.

Cadarnhaodd bwrdd cyfarwyddwyr y Crusaders beth oedd y tu ôl i’r penderfyniad mewn datganiad i’r wasg:

“Yn anffodus, bu’n rhaid i’r Crusaders ganslo ein cais i’r Gynghrair Rygbi ar gyfer ymestyniad tair blynedd i’n trwydded,” medden nhw.

“Bydd cyfarwyddwyr y clwb yn awr yn cwrdd gyda swyddogion y gynghrair er mwyn trafod dyfodol rygbi’r gynghrair yn Wrecsam a Gogledd Cymru wedi diwedd y tymor cyfredol.”

Dywedodd prif weithredwr y Crusaders, Rob Findlay: “Roedd hwn yn benderfyniad anodd, ond wedi archwiliad trylwyr a hirfaith o sefyllfa ariannol y clwb, rydym wedi dod i’r casgliad nad oes modd cynnal y Crusaders yn y Super League ar hyn o bryd.

“Roedd pob agwedd arall o’n cais yn gryf, ac mae’n rhaid i ni weithio’n galed i sicrhau ein bod yn arbed yr agweddau hynny, yn enwedig ein cefnogaeth yn y gymuned a’r rhaglenni datblygu chwaraewyr sydd gennym yng Ngogledd Cymru.”

Ychwanegodd: “Mae llawer o bobl wedi gweithio’n galed iawn i’n dyrchafu i’r safle yr ydym ni ynddo nawr, ond mae’n glir erbyn hyn na fyddai’n bosib i ni barhau fel yr ydym nawr. Fyddai hynny ddim wedi bod yn deg i’r chwaraewyr, i’r cefnogwyr ,i’r clybiau eraill na chwaith i’r gynghrair ei hun.”

Mae’r penderfyniad hefyd yn codi cwestiynau hefyd am fwriad perchnogion CPD Wrecsam gyda’r Cae Ras. Heb incwm gemau’r Crusaders y tymor nesaf, bydd hi’n galetach fyth i ariannu’r stadiwm a’r Clwb pêl-droed.

Dywedodd Llyr Huws Gruffydd, AS Plaid Cymru yng Ngogledd Cymru:, fod y newyddion yn “ergyd enfawr i ddatblygiad rygbi’r gynghrair yng Ngogledd Cymru, ac yn ergyd hefyd i gynlluniau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i brynu’r clwb pêl-droed a’r Cae Ras”.

“Mae gan y perchnogion lot o waith egluro i’w wneud am eu diffyg eglurder wrth ddelio gyda’r cefnogwyr a chyda’r Super League.”