Danny Gabbidon yn lliwiau West Ham
Mae rheolwr Queens Park Rangers yn gobeithio rhoi bywyd newydd yng ngyrfa amddiffynnwr Cymru, Danny Gabbidon.
Wrth ei arwyddo am flwyddyn, fe ddywedodd Neil Warnock mai dyma’r union fath o chwaraewr oedd ei angen ar QPR wrth iddyn nhw godi i’r Uwch Gynghrair.
Ac yntau ar fin troi’n 32 oed, roedd hi’n ymddangos bod gyrfa Gabbidon ar ben ar y lefel ucha’ ar ôl iddo gael tymhorau o anafiadau yn West Ham.
Ond, yn ystod deng niwrnod o brawf gyda QPR, fe wnaeth argraff ar Warnock, gan hyfforddi a chwarae mewn gêmau ar daith yn Nyfnaint a Chernyw.
“Dw i’n meddwl mai dyma’r union fath o chwaraewr sydd ei angen arnon ni,” meddai Neil Warnock wrth wefan QPR. “Mae’n amddiffynnwr o safon, gyda digon o brofiad.”
Caerdydd a Chymru
Roedd Gabbidon wedi dod i’r amlwg i ddechrau gyda Chaerdydd ac wedyn Cymru ac fe dreuliodd chwe thymor yn West Ham gan chwarae tua 100 o weithiau yn yr Uwch Gynghrair.
“Dw i’n gobeithio y galla’ i adfywio’i yrfa,” meddai Warnock. “Ychydig flynyddoedd yn ôl r’on i’n meddwl mai ef oedd un o’r amddiffynwyr gorau yn y wlad.”
Mae Gabbidon hefyd yn ôl yn chwarae i Gymru eto ar ôl ymddeol yng nghyfnod y cyn reolwr, John Toshack.