James Harris
Mae James Harris, bowliwr Morgannwg, wedi adennill ei le yng ngharfan Llewod Lloegr ar gyfer y gyfres yn erbyn Sri Lanka A.

Cyhoeddodd Clwb Criced Morgannwg heddiw y bydd Harris yn rhan o’r garfan fydd yn chwarae mewn  gêm arbrawf pedwar diwrnod yn Scarborough o’r 2il – 5ed o Awst, ac yna mewn tri gornest un diwrnod – yn Worcester ar y 12fed a 14eg o Awst a Northampton ar 16eg o Awst.

Bu Harris yn teithio gyda’r Llewod yn Sri Lanka ym mis Ionawr, ac mae’n hapus ei fod yn cael ail gynnig arni.

“Roeddwn i’n gobeithio cael fy newis yr haf yma, ond mae yna gasgliad mawr o fowlwyr da all gael eu pigo i chwarae i Loegr. Gydag ambell i berfformiad da, efallai y bydd yna siawns i mi gael cyfle i chwarae i’r tîm hŷn cyn bo hir.”

Dywedodd Colin Metson, cyfarwyddwr criced Morgannwg fod pawb yn y clwb yn hapus drosto.

“Mae’r cyfle yma yn wobr am ei berfformiadau cyson trwy gydol y gaeaf ar y daith i Sri Lanka a gyda Morgannwg yn y bencampwriaeth sirol y tymor hwn,” meddai.

“Mae yn gyfle gwych iddo. Gobeithio bydd o’n parhau i ddatblygu a gwella ar y lefel rhyngwladol ac y bydd yn dal llygad detholwyr carfan Lloegr yn y dyfodol agos.”