Mohammad Asghar
Mae Carwyn Jones wedi cyfaddef bod Llafur wedi methu a sicrhau fod Cymru’n cymryd mantais lawn o’r Gemau Olympaidd yn 2012, yn ôl y Ceidwadwyr.
Dywedodd llefarydd yr wrthblaid ar chwaraeon, Mohammad Asghar, y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi datblygu strategaeth glir er mwyn hybu budd Cymru pan gafodd y gemau eu cyhoeddi.
Daw ei sylwadau wedi i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ddweud y dylai mwy o gwmnïau Cymreig fod wedi ceisio ennill cytundebau.
Ychwanegodd y byddai wedi hoffi gweld llawer rhagor o chwaraeon, yn hytrach na phêl-droed yn unig, yn cael eu cynnal yng Nghymru.
Roedd wedi ei gyfweld blwyddyn union cyn dechrau’r Gemau Olympaidd yn Llundain.
Ond dywedodd Mohammad Asghar fod ei gwynion yn “gyfaddefiad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi lobio yn effeithiol am rôl fwy blaenllaw ar gyfer cyrchfeydd chwaraeon a busnesau Cymru”.
“Fe ddylai Gweinidog Cymru fod wedi datblygu strategaeth glir er mwyn helpu busnesau bach i wneud cais am gytundebau Olympaidd, annog gwledydd i hyfforddi yng Nghymru a marchnata ein cyrchfeydd chwaraeon penigamp yn fyd-eang.
“Yn hytrach na beio busnesau Cymru am eu diffyg hyder economaidd, fe ddylai’r Prif Weinidog gymryd cyfrifoldeb am gamreoli’r economi.
“Dan ei orchwyl ef Cymru yw’r rhan tlodaf o Brydain.”
Datgelwyd heddiw y bydd tîm codi pwysau China yn trigo ym Mangor wrth iddyn nhw hyfforddi ar gyfer Gemau Olympaidd 2012.