Malky Mackay, rheolwr Caerdydd
Mae disgwyl i CPD Dinas Caerdydd gyhoeddi’n fuan iawn eu bod nhw wedi arwyddo dau ymosodwr newydd – Kenny Miller a Rudy Gestede.

Mae’n ymddangos fod Miller, fu gynt yn chwarae i Glasgow Rangers, yn agos iawn i gwbwlhau ei gytundeb â’r clwb.

Mae’n debyg iawn fod Caerdydd wedi bwriadu cyhoeddi’r newyddion yn eu cynhadledd i’r wasg fore Gwener diwethaf, ond bu rhaid gohirio’r datganiad gan nad oedd dogfen oedd yn allweddol at gwbwlhau y contract wedi ei anfon ymlaen gan Bursaspor o Dwrci – clwb presennol y chwaraewr.

Mae’r ffurflen goll yn hanfodol er mwyn cadarnhau a chlirio trosglwyddiadau rhyngwladol, ac felly does dim sicrwydd na fydd y chwaraewr yn ailfeddwl ar unrhyw bwynt cyn bod yr holl waith papur wedi’i gwblhau.

Yn y gorffennol, mae chwaraewyr megis Marcus Bent, Jody Morris a Chris Killen oll wedi tynnu allan o gytundebau gyda’r clwb ar y funud olaf.

Mae adroddiadau hefyd yn honni fod cytundeb Rudy Gestede, cyn ymosodwr rhyngwladol dan 19 i Ffrainc, ar fin cael ei gwblhau.

Fe fu ar gyfnod rhagbrofol gyda’r Adar Gleision yn ddiweddar ac fe sgoriodd mewn buddugoliaeth yn erbyn Charlton mewn gêm gyfeillgar.

Mae’n amlwg wedi creu dipyn o argraff beth bynnag, oherwydd mae wedi pasio arbrofion meddygol ac mae telerau’r cytundeb wedi’u trefnu.

Gan dybio na fydd y cytundebau’n cael eu diddymu neu eu gohirio ymhellach, bydd y ddau yn cystadlu gyda Jon Parkin, Robert Earnshaw a Joe Mason am safleoedd yr ymosodwyr yn y garfan.