Geraint Thomas
Gorffennodd y Tour de France ddoe am flwyddyn arall wedi tair wythnos a dros 3,400km o seiclo caled, a Geraint Thomas oedd Prydeiniwr gorau’r daith eleni.
Daeth y cymal olaf i ben brynhawn ddoe ar y Champs-Elysees ym Mharis. Croesodd Thomas y llinell yn y 63ain safle.
Gorffennodd yn y 31ain safle yn y Tour de France yn ei gyfanrwydd – 1 awr a 48 eiliad y tu ôl i’r enillwr Cadel Evans.
Dyma’r tro cyntaf i ŵr o Awstralia gael ei goroni’n bencampwr y Tour de France, ond mae gan Cadel Evans ei wreiddiau yng Nghymru. Roedd ei hen-daid o Gymru, ac mae ganddo enw Cymreig.
Gorffennodd Evans o flaen y brodyr Schleck, Thomas Voeckler ac Alberto Contador i gipio’r crys melyn. Enillodd Mark Cavendish y cymal olaf – ei 20fed buddugoliaeth ar y Tour – i selio’r crys gwyrdd am y tro cyntaf yn ei yrfa, a’r tro cyntaf i Brydeiniwr ei ennill.
Samuel Sanchez, o Sbaen, ennillodd y dringwr gorau; Rolland Pierre o Ffrainc gafodd crys gwyn y seiclwr ifanc gorau; a Garmin Cervelo gafodd yr amser gorau ar y cyd i ennill cystadleuaeth y timau.