Lewis Hamilton
Lewis Hamilton ddaeth i’r brig yn Grand Prix Nürburgring ddoe gan ddisgrifio’r ras fel un “arbennig iawn”.
Mark Webber oedd yn y safle cyntaf ar y grid ar ddechrau’r ras ond methodd â chynnal y flaenoriaeth yn hir.
Fe wibiodd Hamilton heibio i Webber ar y gornel gyntaf, ac ymhen dim roedd yn ras tri cheffyl rhwng Hamilton, Webber ac Alonso.
Y tu ôl i’r tri roedd yr Almaenwr Sebastian Vettel yn cael diwrnod hunllefus yn ei famwlad wrth i broblemau technegol lethu ei ras, ac fe orffennodd yn bedwerydd siomedig.
Pencampwriaeth yn fwy diddorol
Hamilton oedd ar frig y podiwm ar ôl y ras felly, gydag Alonso o Ferrari yn ail a Mark Webber yn drydydd.
Er hynny Vettel sy’n dal i arwain y bencampwriaeth, 77 pwynt o flaen ei gyd gyrrwr Mark Webber ac 82 pwynt o flaen Hamilton.
Disgrifiwyd y ras gan Hamilton fel yr orau o’i fywyd, ac mae’r fuddugoliaeth wedi cynyddu ei ffydd yn McLaren ar ôl wythnosau o ddiffyg llwyddiant, a sïon ei fod am ymuno â thîm llwyddiannus Red Bull.
Am yr ail waith yn olynol methodd Jenson Button â gorffen y ras.
Hwngari sydd nesaf ac fe fydd Red Bull, McLaren a Ferrari yn ceisio cipio’r pwyntiau llawn ar ôl canlyniad sy’n gwneud y bencampwriaeth yn llawer mwy agored.