Mae cadwyn siopau John Lewis wedi cyhoeddi cynllun i greu miloedd o swyddi drwy agor sawl siop llai ar draws Prydain.
Bydd y siopau yn llai na siopau adrannol anferthol y cwmni, er engraifft y siop 280,000 troedfedd sgwâr yng Nghaerdydd sydd ymysg y mwyaf y tu allan i Lundain.
Dywedodd John Lewis eu bod nhw wedi clustnodi 10 ardal o fewn Ynysoedd Prydain oedd yn addas ar gyfer un o’u siopau mawr.
Bydd y cyntaf yn agor yng Nghaerwysg, gan greu 300 o swyddi.
“Mae yna botensial anferth, a galw amlwg gan siopwyr, ar y cwmni i ymestyn ymhellach ar draws Ynysodd Prydain,” meddai rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Andy Street.
“Bydd bod yn fwy hyblyg ynglŷn â maint ein siopau yn caniatáu i ni wthio ymlaen â’n cynlluniau i dyfu’r cwmni a chyflwyno John Lewis i ddinasoedd a threfi eraill.
“Drwy wneud hynny fe fyddwn ni’n creu miloedd o swyddi drwy gydol y wlad. Rydyn ni’n benderfynol o barhau i fuddsoddi mewn brics a mortar.
“Rydyn ni hefyd yn gwybod fod siopau newydd yn annog siopa ar-lein yn yr ardaloedd lle’r ydyn ni’n masnachu.”