Y Tywysog Andrew
Mae Dug Efrog wedi penderfynu rhoi gorau i’w swydd yn llysgennad busnes ar ran y Deyrnas Unedig, cadarnhaodd Palas Buckingham heno.

Daw penderfyniad Andrew ar ôl iddo wynebu ton o feirniadaeth yn gynharach eleni ynglŷn â’i berthynas â chyfres o ffigyrau dadleuol, gan gynnwys pedoffeil.

Cyhuddwyd y Dug o ddiffyg synnwyr cyffredin wedi iddo ddod i’r amlwg fod ganddo gysylltiadau â’r biliwnydd Jeffrey Epstein, gafodd ei ddedfrydu i 18 mis yn y carchar yn 2008 am gymell plentyn dan oed i gymryd rhan mewn puteindra.

“Ni fydd swyddogaeth y Cynrychiolydd Arbennig yn parhau wedi i Ddug Efrog roi’r gorau iddi ar ôl 10 mlynedd,” meddai llefarydd ar ran Palas Buckingham.

Pwysleisiodd y llefarydd y byddai Andrew yn parhau i fynychu teithiau swyddogol dramor yn rhinwedd ei swyddogaeth yn aelod o’r Teulu Brenhinol.