Liam Fox
Fe fydd y Fyddin Diriogaethol yn cael llawer mwy o ran o fewn lluoedd arfog gwledydd Prydain.
Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn y byddai £1.5 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn y gwasanaeth gyda thraean o’r holl luoedd yn aelodau o’r TA erbyn 2020.
Fe fyddai hynny’n debyg i wledydd eraill, fel yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia, meddai Liam Fox.
Roedd yn rhagweld y byddai gan y lluoedd arfog 120,000 o aelodau ymhen deng mlynedd ac y byddai mwy na 35,000 o’r rheiny yn y lluoedd wrth gefn.
Fe ddywedodd wrth Aelodau Seneddol bod penderfyniadau i gael llai o amrywiaeth o awyrennau ac i dynnu’r Fyddin o’r Almaen yn golygu bod modd torri’n ôl a gwerthu rhai safleoedd.
Fe fydd rhai o gatrawdau’r Fyddin yn cael eu hanfon i hen safleoedd y Llu Awyr ar ôl dod yn ôl o’r Almaen.