Ar goll ers mis Mehefin - Flournoy a Griffiths
Mae dyn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â llofruddiaeth dau ddyn a ddiflannodd y mis diwetha’.

Mae heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth y paffiwr, Brett Flournoy, a David Griffiths, wedi dod o hyd i o leia’ un corff a fan wedi ei difrodi gan dân ar dir amaethyddol ger St Austell yng Nghernyw.

Mae Ross Stone, 28, wedi cael ei gyhuddo o waredu corff marw er mwyn rhwystro crwner.

Roedd disgwyl iddo ymddangos o flaen Llys Ynadon Bodmin fore heddiw.

Fe ddiflannodd Flournoy a Griffiths, dau ddyn yn eu 30au, ar ôl bod ar daith hamdden i Gernyw mewn fan Citroen Berlingo. Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw’n credu mai’r fan honno y maen nhw wedi dod o hyd iddi, er ei bod wedi ei difrodi gan dân ac wedi ei llenwi â phridd.

Mae ymchwiliad fforensig yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd, ac mae teuluoedd y ddau wr wedi eu hysbysu o’r darganfyddiadau hyd yn hyn.