Tocyn loteri
Mae rhywun o Ynysoedd Prydain wedi ennill £161 miliwn ar y loteri EuroMillions – y jacpot mwyaf o’i fath yn hanes Ewrop.
Dywedodd y Loteri Genedlaethol fod y person wedi cael pob un o’r rhifau yn gywir.
Nid yw’n amlwg eto ai unigolyn ynteu syndicâd sydd wedi ennill y wobr, a dyw Camelot heb ddatgelu o le yn Ynysoedd Prydain y mae’r enillydd yn dod.
Os mai unigolyn enillodd yr arian fe fyddai yn y 430ain safle ar restr cyfoethogion y Sunday Times.
Y jacpot oedd y mwyaf o’i fath yn hanes Ynysoedd Prydain ac Ewrop.
Y rhifau arobryn oedd 17, 19, 38, 42 a 45, a’r sêr lwcus oedd 9 a 10.
“Mae’n newyddion anhygoel – rydyn ni wrth ein boddau fod rhywun o Ynysoedd Prydain wedi cipio’r wobr €185m – sef £161m,” meddai’r Loteri Genedlaethol.