Mae Grŵp Bancio Lloyds TSB yn bwriadu cael gwared ar 15,000 o swyddi pellach erbyn 2014 mewn ymdrech i arbed £1.5 biliwn y flwyddyn.
Cafodd y cynllun ei ddatgelu gan Brif Weithredwr newydd y cwmni, Antonio Horta-Osorio, yn rhan o’i adolygiad strategol.
Bydd y toriadau pellach yn golygu bod 41% o swyddi’r banc – dros 40,000 – wedi diflannu ers i’r grŵp gael ei ffurfio trwy gyfuno Lloyds TSB a HBOS.
Dywedodd y Prif Weithredwr mae ei fwriad oedd creu sefydliad mwy “ystwyth” a son mai rheolwyr canol byddai’r mwyafrif o’r rhai yn colli eu gwaith, yn hytrach na staff o fewn canghennau’r banc.
Bydd y cwmni yn ceisio ail-benodi staff i swyddi eraill yn hytrach na’u diswyddo, lle bydd hynny’n bosib, meddai.
Ond mae undeb Unite wedi dweud y bydd yr adolygiad yma yn achosi “pryder mawr” ar draws y cwmni.
“Mae’n anhygoel bod un ym mhob wyth swydd yn mynd i gael eu colli o fewn tair blynedd,” meddai swyddog cenedlaethol Unite, David Flemming.
“Dim ond ymarferiad ticio bocsys yw’r adolygiad yma, i roi esgus i’r banc sydd eisoes wedi torri 27,000 o’u staff, i ddiswyddo ymhellach.”
Roedd cyfranddaliadau Lloyds TSB wedi codi 7% wedi’r cyhoeddiad, gyda dadansoddwyr yn cefnogi adolygiad strategol Antonio Horta-Osorio.