Mae pryderon am y diwydiant ynni niwclear wedi cynyddu ers yr helbul yn Fukushima.
Mae gorsaf niwclear yn yr Alban wedi gorfod cau ar ôl i nifer fawr o sglefrau môr [jelly fish] gael eu canfod ar sgriniau hidlo dŵr y môr. 

Roedd unedau gorsaf bŵer Torness ar yr arfordir ger Dunbar yn East Lothian wedi cael eu cau lawr â llaw ddydd Mawrth. 

Yn ôl EDF Energy, y cwmni sy’n rhedeg yr orsaf, roedd cau’r adweithyddion lawr yn gam gofalus, ac nad oedd yna beryg i’r cyhoedd ar unrhyw amser. 

Mae’r sgriniau lle cafodd y sglefrau môr eu canfod yn hidlo malurion o’r dŵr sy’n mynd mewn i’r orsaf i oeri’r adweithyddion. 

Bellach mae gweithwyr wedi cychwyn ar y dasg o glirio’r sglefrau môr o’r dŵr yn agos i’r orsaf, ac fe fydd yr adweithyddion yn ail-ddechrau cyn gynted ag y bydd y gwaith glanhau wedi ei gwblhau.

“Mae lleihad yn llif y dŵr oherwydd sglefrau môr, gwymon a malurion eraill o’r môr yn cael eu hystyried yn rhan o ystyriaeth ddiogelwch yr orsaf ac nid yw’n ddigwyddiad anadnabyddus,” meddai llefarydd ar ran EDF Energy.