Penderfynodd cyfarfod cyhoeddus yn Nolgellau neithiwr wahodd Eisteddfod yr Urdd i Feirionnydd yn 2014. 

 Roedd Pwyllgor Rhanbarth yr Urdd a Chyngor Gwynedd eisoes wedi dangos eu cefnogaeth i’r syniad.  

 Tro’r trigolion oedd hi i roi sêl eu bendith fod Gŵyl Ieuenctid fwyaf Ewrop yn ymweld â’r ardal o fewn tair blynedd.

Bydd yr Eisteddfod yn ymweld â Glynllifon ger Caernarfon yn 2012, Sir Benfro yn 2013, ac ar ôl neithiwr daeth yn amlwg mai tro Meirionnydd fydd hi’r flwyddyn ganlynol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Siôn  bod “sicrhau cefnogaeth y bobl leol yn hanfodol i lwyddiant unrhyw Eisteddfod.”

Ym Meirionnydd y cynhaliwyd yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf un ym 1929. Y pryd hwnnw, roedd Corwen yn rhan o Feirionnydd, ac yn y dref honno y penderfynodd sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards, gynnal Eisteddfod gyntaf y mudiad.

 Bydd y gwaith o sefydlu’r pwyllgor gwaith a’r pwyllgorau testun yn mynd yn ei flaen yn ystod y misoedd nesaf.