Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae ymgyrchydd a fu ynghlwm â’r refferendwm diweddar ar gynyddu grymoedd y Cynulliad yn cyhuddo’r  Comisiwn Etholiadol o wneud ‘smonach’ o oruchwylio’r broses ddemocrataidd, ac yn mynnu y dylai’r corff gadw’n glir o bob refferendwm yn y dyfodol.

Mae Alwyn ap Huw yn credu bod y Comisiwn wedi atal nifer o leisiau rhag cael eu clywed trwy benderfynu mai dim ond un ymgyrch swyddogol fyddai i bob ochr.

Gwrthododd y Comisiwn gais Alwyn ap Huw i sefydlu ymgyrch ‘NA’ swyddogol ei hun – safiad a gymrodd ar sail y farn nad oedd cwestiwn y refferendwm yn “mynd yn ddigon pell” o ran datganoli grym i Gymru.

“Dim ond un ymgyrch yr oedden nhw’n ei ganiatau i bob ochr,” meddai wrth Golwg 360, “ac fe wrthodwyd fy nghais i am nad o’n i’n gwneud y dadleuon yr oedden nhw’n ei ddisgwyl.

“Dylai’r Comisiwn Etholiadol beidio gwneud unrhyw beth ag unrhyw refferendwm arall, ar ôl y smonach wnaethon nhw o hwn.”

Daw’r sylwadau wrth i’r Comisiwn Etholiadol baratoi at gyflwyno’u hadroddiad ar y modd y cynhaliwyd y refferendwm, mewn brecwast ym Mae Caerdydd ar 13 Gorffennaf.

Yn ôl Rhydian Thomas o’r Comisiwn Etholiadol, mae’r adroddiad hwn wedi rhoi cyfle i bob un o’r ymgyrchwyr, gan gynnwys Alwyn ap Huw, roi eu barn ar waith y Comisiwn yn ystod y refferendwm.

“Ry’n ni wedi gofyn i bob un o’r ymgyrchwyr cofrestredig i roi eu barn nhw ar y broses,” meddai Rhydain Thomas, “ac fe fydd casgliadau’r adroddaid yn cynnwys yr ymatebion hynny.”

Ond mae lleoliad ac amseru’r adroddiad wedi cythruddo Alwyn ap Huw ymhellach, ac mae’n cyhuddo’r Comisiwn Etholiadol o fod yn ‘Cardiff-Centric’ yn eu hagwedd.

“Mae’r problemau ymarferol o gyrraedd Caerdydd o Landudno ar gyfer cwrdd brecwast am wyth o’r gloch y bore, efo pob parch, yn gwbl hurt!” meddai ar ei flog, Hen Rech Flin,

 “Mor hurt ag i wneud y fath gyfarfod yn rhan o’r cwyn am ddiffyg ystyriaeth y Comisiwn i anghenion holl ymgyrchwyr mewn refferendwm.”

Ond yn ôl y Comisiwn Etholiadol “roedd teimlad ei bod hi’n bwysig ei gael e ym Mae Caerdydd, gan fod y refferendwm yn trafod dyfodol y Cynulliad ei hun.”