Dyfrig Jones
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau y bydd Cynghorydd o Wynedd yn cael ei erlyn yn y llys, ynghylch mater yn ymwneud â lluniau wedi eu postio ar ei wefan Facebook.
Bydd Dyfrig Jones o Blaid Cymru yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Caernarfon ar Orffennaf 12.
“Mae dyn 34 oed wedi ei gyhuddo dan adran 1 Deddf Plant a Phobl Ifanc (1933),” meddai llefarydd Heddlu’r Gogledd.
Ni fydd yn cael ei wahardd rhag bod yn aelod o Gyngor Gwynedd oherwydd yr achos llys, ond mae wedi rhoi’r gorau i fod yn aelod o Awdurdod S4C am y tro.
“Tra bod ymchwiliadau gan yr heddlu yn parhau, mae Dyfrig Jones wedi camu o’r neilltu o’i ddyletswyddau fel Aelod o Awdurdod S4C,” meddai llefarydd i Sianel.
Yr wythnos ddiwetha’ roedd cylchgrawn Golwg yn datgelu bod cwyn swyddogol wedi’i gwneud yn erbyn y Cynghorydd Dyfrig Jones ar ôl i nifer o bobol, gan gynnwys un o ohebwyr y cylchgrawn, ddod ar draws y lluniau ar y dudalen Facebook. Roedd y rheiny’n cynnwys:
- Llun yn dangos babi gyda chan cwrw yn ei law, sigarét heb ei chynnau yn ei geg a llaw oedolyn yn cynnig tân.
- Un arall yn dangos plentyn ychydig yn hŷn a’r hyn sy’n edrych fel bag plastig dros ei ben.
“Rydym yn gallu cadarnhau ein bod wedi derbyn cwyn am y lluniau sydd wedi ymddangos ar Facebook a rydym yn ymchwilio i’r mater ar hyn o bryd,” meddai llefarydd Heddlu’r Gogledd.
Roedd y gŵyn wedi ei gwneud gan gynghorydd arall, Simon Glyn o Llais Gwynedd, sydd hefyd yn bennaeth ar gartref plant. Roedd yn honni bod y lluniau’n “eithriadol o annerbyniol” ac mae wedi cwyno hefyd wrth y Cyngor a’r adran gwasanaethau cymdeithasol.
Mae Dyfrig Jones wedi gwadu’r honiadau. Mewn datganiad i’r cylchgrawn fe ddywedodd hyn: “Mae’r awgrym fod deunydd sydd yn ‘eithriadol o annerbyniol’ wedi’i osod ar fy nhudalen Facebook yn gwbl anghywir. Rwy’n gwrthod unrhyw honiad fy mod wedi ymddwyn mewn modd amhriodol, ac yn gwbl hyderus y bydd unrhyw ymchwiliad yn dod i’r un casgliad.”
Mae Dyfrig Jones yn cynrychioli Plaid Cymru yn Gerlan, Bethesda, yn aelod o Awdurdod S4C ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.