Lee Trundle yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf
Mae Castell Nedd yn paratoi ar gyfer noson hanesyddol wrth iddyn nhw gystadlu yn Ewrop am y tro cyntaf.

Mae’r Cymry’n herio Aalesunds FK o Norwy yn y Cwpan Ewropa, a does neb yn edrych ymlaen yn fwy na’r ymosodwr poblogaidd Lee Trundle.

Fe ymunodd cyn ymosodwr Abertawe a Wrecsam â’r clwb Uwch Gynghrair Cymru llynedd, ac mae wedi cyfaddef mai’r cyfle i chwarae yn Ewrop oedd y prif reswm am ei benderfyniad.

Ewrop yn dynfa

“Roedd yn dynfa fawr i mi, ro’n i am helpu Castell Nedd i gyrraedd Ewrop” meddai’r Sgowsar wrth BBC Cymru.

“Mae’n rhywbeth dwi heb allu gwneud o’r blaen, a byddai’n braf edrych yn ôl ar fy ngyrfa a dweud fy mod i wedi chwarae yn Ewrop.”

“Pryd ry’ch chi’n chwarae pêl-droed, mae’n bwysig gallu mwynhau a dwi wedi mwynhau’n fawr eleni a bydd chwarae yn Ewrop yn uchafbwynt i hynny.

Sialens fawr

Mae Aalesunds yn drydydd yng nghynghrair genedlaethol Norwy ar hyn o bryd ar ôl 13 o gemau. Maen nhw wedi ennill lle yng Nghynghrair Ewropa fel rhan o fenter Chwarae Teg UEFA.

Fe gollodd y tîm i Motherwell yn y drydedd rownd o’r gystadleuaeth llynedd, ond mae ganddyn nhw nifer o chwaraewyr rhyngwladol yn eu carfan eleni gan gynnwys Jonathan Parr, Nigerian Solomon Okoronkwo a Demar Phillips. 

Enillodd Castell Nedd eu lle yn y gystadleuaeth ar ôl curo Prestatyn yng ngemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru.

“Mae’n mynd i fod yn sialens enfawr i ni” meddai Trundle.

“Nid ni ydy’r ffefrynnau ond nid yw’r bois yn ofni hynny. ”

“Rwy’n gwybod eu bod nhw’n chwarae ar gae plastig, ond fe fydd hynny’n siwtio nifer o’n chwaraewyr gan eu bod nhw’n dda iawn ar y bêl” ychwanegodd.

Y Seintiau Newydd

Tîm arall sy’n chwarae ar gae plastig ydy’r Seintiau Newydd.

Maen nhw’n llawer mwy profiadol mewn cystadlaethau Ewropeaidd na Chastell Nedd, ac maen nhw hefyd yn cystadlu yn Ewrop heno.

Fe fyddan nhw’n croesawu’r tîm Gwyddelig Cliftonville i Park Hall yn y Cwpan Ewropa.

Un chwaraewr newydd sy’n gobeithio bod yn rhan o dîm y Seintiau heno yw’r ymosodwr o Seland Newydd Craig Draper.