Sione Timani
Mae’r Scarlets wedi arwyddo’r cawr o ail reng Sione Timani ar gytundeb dwy flynedd.
Roedd Timani yn chwarae i Gwins Caerfyrddin y tymor diwethaf, ac fe ddaliodd lygad hyfforddwyr y Scarlets gyda’i berfformiadau gwych i’w wlad yn y Cwpan Churchill diweddar.
Fe sgoriodd yr ail reng gais yn erbyn Sacsoniad Lloegr yn y gystadleuaeth honno, ac mae wedi bod yn hyfforddi gyda’r rhanbarth Cymreig ers pythefnos.
Mae Timani wedi chwarae i dimau yn Seland Newydd a Siapan yn y gorffennol, ac mae disgwyl iddo ychwanegu at ei dri chap presennol yn ystod Cwpan y Byd yn yr hydref.
Mae’n gawr go iawn – yn chwe throedfedd a pum modfedd o daldra ac yn pwyso pedair stôn ar bymtheg.
Presenoldeb corfforol yn y pac
Mae hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies yn credu bydd y cawr yn ychwanegu elfen fwy corfforol i bac y Scarlets.
“Mae e’n ychwanegiad arbennig yn nhermau cydbwysedd yn y pac, mae ganddo lot i’w gynnig” meddai Davies.
“Ry’n ni’n hyderus y bydd e’n datblygu hyd yn oed yn fwy fel chwaraewr ar ôl ymuno â ni.”
“Mae wedi profi hefyd ei fod yn chwaraewr teyrngar ac mae’n rhoi ei orau ar y cae. Ry’n ni’n hapus iawn ei fod wedi ymuno gyda ni ac ry’n ni’n edrych ymlaen at ei gyfraniad yn ystod y tymor nesaf.”
Cyfle gwych
“Mae hwn yn gyfle gwych i mi ymuno a chlwb mor enwog ac uchel ei barch” meddai Sione Timani.
“Rwy’n gobeithio y byddaf yn dod ymlaen yn dda gyda’r chwaraewyr eraill.”
“Mae’r Scarlets yn dîm sy’n llawn uchelgais ac yn amlwg yn dilyn polisi i feithrin chwaraewyr ifanc, mae hwn yn rhywbeth sy’n apelio’n fawr ataf. Maent yn chwarae rygbi da ac rwyf yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r tîm.”