Peter Whittingham
Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Peter Whittingham yn cael ei gysylltu â throsglwyddiad i fwrdd o Stadiwm Dinas Caerdydd. 

Mae’r Sais 26 oed  yn cael ei dargedu gan Norwich o’r Uwch Gynghrair, a Chaerlŷr a Portsmouth yn y Bencampwriaeth. 

Mae Portsmouth wedi bod yn paratoi cynnig gwerth tua £1m miliwn am gyn chwaraewr Aston Villa, ond mae fe allai diddordeb Norwich a Chaerlŷr godi’r swm posib i £2 miliwn. 

Mae gan Whittingham ddwy flynedd ar ôl ar ei gytundeb presennol ond mae ‘na ansicrwydd ynglŷn ag os yw’n rhan o gynlluniau’r rheolwr newydd, Malky Mackay. 

Mae wedi chwarae dros 200 o gemau i Gaerdydd ers ymuno a’r clwb yn 2007.