Gary Speed
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn chwarae yn erbyn Awstralia am y tro cyntaf erioed mewn gêm gyfeillgar yng Nghaerdydd ym mis Awst.

Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi cadarnhau y bydd tîm Gary Speed yn wynebu’r Socceroos yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 7.45pm ar 10 Awst.

Bydd rheolwr Cymru yn awyddus am ganlyniad positif arall ar ôl sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf wrth y llyw yn erbyn Gogledd Iwerddon ym mis Mai.

Mae’r gymdeithas hefyd wedi cadarnhau y bydd Cymru yn wynebu Montenegro yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 2 Medi a’r Swistir yn Stadiwm Liberty ar 7 Hydref.

Bydd Cymru hefyd yn wynebu Lloegr a Bwlgaria mewn gemau oddi cartref yn eu hymgyrch rhagbrofol ar gyfer Ewro 2012 – ond mae eu gobeithio o gyrraedd y gystadleuaeth yng Ngwlad Pwyl a’r Wcráin eisoes wedi ar ben.

Rhestr detholion

Mae methiant Cymru i ennill yr un pwynt hyd yn hyn yn eu hymgyrch rhagbrofol yn golygu eu bod nhw’n parhau i fod yn rhif 114 ar restr detholion Fifa.

Erbyn hyn mae Cymru yn rhannu’r safle gyda’r Ynysoedd Faroe ar ôl iddynt hwy godi 22 safle.

Mae Cymru yn parhau i fod y tu ôl wledydd megis Ciwba, Syria, ac Antigua a Barbuda yn y rhestr detholion.

Mae’r gwledydd cartref eraill i gyd wedi codi yn y rhestr detholion, gyda Lloegr yn bedwerydd, yr Alban yn 61 a Gogledd Iwerddon yn 62.