Rob Howley
Mae yna adroddiadau bod hyfforddwr ymosodwyr Cymru, Rob Howley, yn bwriadu ymuno â Chaerfaddon yn dilyn Cwpan y Byd.

Mae cytundeb cyn-gapten Cymru yn dod i ben ar ôl y gystadleuaeth yn Seland Newydd yn yr hydref ac mae eisoes wedi ei gysylltu â swydd prif hyfforddwr y Gleision, wrth i Dai Young ystyried symud i Lundain at Wasps.

Mae disgwyl i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wneud sawl newid i’w dîm hyfforddi ar ôl Cwpan y Byd.

Rob Howley yw’r ffefryn i olynu Steve Meehan ac ymuno a thîm hyfforddi Ian McGeechan yng Nghaerfaddon.

Mae’r ddau wedi adnabod ei gilydd ers blynyddoedd ar ôl i Howley chwarae i’r Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 1997.

Roedd Howley hefyd yn rhan o dîm hyfforddi McGeechan ar daith olaf y Llewod i Dde Affrica yn 2009.