Michael Chopra
Mae cyn-ymosodwr Caerdydd, Michael Chopra, wedi gwadu iddo yfed yn drwm noswaith cyn gêm y tymor diwethaf.

Roedd yna adroddiadau bod Chopra ynghyd ag aelodau eraill o garfan yr Adar Glas wedi bod allan yn yfed  ar y nos Sul cyn gêm hollbwysig yn erbyn Middlesborough y diwrnod canlynol yn agos at ddiwedd y tymor.

Ond mewn cyfweliad gyda’r Western Mail, dywedodd yr ymosodwr a ymunodd â Ipswich yn gynharach yn y mis, bod yr adroddiadau’n anghywir.

“Doeddwn i ddim allan yn yfed y noswaith cyn y gêm yn erbyn Middlesborough – fe fyddai hynny wedi bod yn gwbl amhroffesiynol,” meddai Michael Chopra.

“Roedd pawb yn y noswaith wobrwyo ar y nos Wener ac roeddwn ni a rhai o’r chwaraewyr eraill wedi mynd allan ar ôl hynny.

“Ond roedd hyn tri diwrnod cyn y gêm ar y dydd Llun yn erbyn Middlesborough. Dw i ddim yn un i yfed yn drwm a dim ond Red Bull oeddwn i’n ei yfed.

“Mae’n chwerthinllyd gweld sut mae’r stori wedi ei ymestyn. Roedd yna gymal yng nghytundebau’r chwaraewyr sy’n gwahardd yfed alcohol am 48 awr cyn gêm neu wynebu dirwy enfawr.  Does yr un chwaraewr wedi ei ddirwyo.”

Ond mae Michael Chopra yn cyfaddef nad ddylai fod wedi mynd allan ar y nos Wener cyn y gêm.

“Dyna’r unig beth ydw i’n ei difaru wedi dwy flynedd a hanner gyda Chaerdydd,” meddai Michael Chopra.