Mae amddiffynnwr Abertawe, Angel Rangel, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd newydd gyda’r Elyrch.
Mae’r Sbaenwr wedi ymddangos dros 180 o weithiau i’r clwb mewn pedwar tymor ond roedd yna bryderon y gallai adael am ddim dros yr haf.
Roedd y chwaraewr 28 oed wedi ei gysylltu â chlybiau eraill gan gynnwys Blackpool, Fulham a Millwall.
Mae disgwyl i Rangel arwyddo’r cytundeb yn fuan ac mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi dweud ei fod yn hapus bod y Sbaenwr yn awyddus i fod yn rhan o dymor cyntaf y clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.
“R’yn ni wrth ein boddau yn sicrhau dyfodol Angel am y tair blynedd nesaf,” meddai Huw Jenkins.
“Mae wedi chwarae rhan fawr yn llwyddiant y clwb ac r’yn ni’n awyddus ei fod yn chwarae rhan blaenllaw yn ystod ein tymor cyntaf yn yr Uwch Gynghrair.”