Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas yn credu bod gan arweinydd Team Sky, Bradley Wiggins, gyfle da i ennill y Tour de France.
Bydd Thomas, Wiggins a gweddill Team Sky yn dechrau’r gystadleuaeth ddydd Sadwrn yng ngorllewin Ffrainc, ac mae ‘na hyder y byddwn nhw’n llwyddo eleni.
“Dw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw reswm pam na allai Bradley ennill eleni,” meddai Geraint Thomas.
“Mae’n gystadleuaeth tair wythnos ac mae llawer yn gallu digwydd. Mae’n rhaid i chi fynd i mewn i’r gystadleuaeth gan anelu at y brig a gwneud eich gorau.
“Ond beth bynnag y canlyniad fe gawn ni amser da ym Mharis ar y diwedd!
“Rhaid i ni gyd wneud ein gorau ac os allwn ni wneud hynny fyddwn ni ddim yn bell o sicrhau canlyniad da.”
Cafodd Thomas ei ganmol y llynedd am ei berfformiadau yn y Tour de France ac mae’n teimlo ei fod yn y tîm cywir os yw am ddatblygu ymhellach.
“Rwy’n gobeithio parhau i ddatblygu. Mae gen i gefnogaeth dda o fy amgylch a fydd yn help i fi wireddu fy mhotensial.”