Darren Campbell (CCAA 2.0)
Mae’r medalwr Olympaidd, Darren Campbell, wedi ei benodi’r aelod o fwrdd fydd yn ceisio hybu gobeithion Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014.

Bydd Campbell yn rhan o fwrdd Focus 2014 sydd wedi ei sefydlu i gadw llygad ar ddatblygiad athletwyr a chwaraewyr Cymru er mwyn sicrhau llwyddiant.

Mae’r gwibiwr wedi cynrychioli Lloegr yng Ngemau’r Gymanwlad a dywedodd ei fod yn awyddus i godi safonau yng Nghymru.

“Rwyf wedi byw yng Nghymru ers 17 mlynedd ac mae pawb wedi bod yn gefnogol iawn.  Mae gen i dri phlentyn sy’n hanner Cymraeg ac rwy’n credu ei fod yn bwysig i mi gynnig rhywbeth yn ôl,” meddai Darren Campbell.

“Rwy’n benderfynol o sicrhau llwyddiant ac fe fydda i wrth fy modd yn helpu i wneud gwahaniaeth. Rwy’n dod a phersbectif athletwr i’r rôl, sy’n allweddol.”