Ffordd Farrar
Bydd Bangor yn dechrau amddiffyn pencampwriaeth Uwch Gynghrair Cymru yn erbyn Llanelli ar Ffordd Farrar y tymor nesaf.

Collodd tîm Nev Powell 4-1 yn erbyn Llanelli yn rownd derfynol Cwpan Cymru ym mis Mai eleni ac fe enillodd tîm Andy Legg 5-2 ym Mangor ym mis Ebrill.

Bydd Bangor yn gobeithio am ganlyniad gwell pan fydd y ddau dîm yn cyfarfod ar 13 Awst.

Mae’r ymgyrch yn dechrau’r noswaith cynt wrth i’r Seintiau Newydd wynebu’r Bala yn Park Hall.

Mae Lido Afan yn dychwelyd i’r Uwch Gynghrair gyda gêm gartref yn erbyn Prestatyn.

Bydd rheolwr newydd y Drenewydd, Bernard McNally  yn wynebu Caerfyrddin ar Barc Richmond yn ei gêm gyntaf wrth y llyw.

Bydd Airbus UK yn croesawu Port Talbot ar ddydd Sadwrn cyntaf y tymor tra bod Aberystwyth yn teithio i Gastell-nedd ar gyfer yr unig gêm gaiff ei chynnal ar y dydd Sul.

Gemau agoriadol y tymor

Dydd Gwener 12 Awst

Y Seintiau Newydd v Y Bala

Dydd Sadwrn 13 Awst

Lido Afan v Prestatyn

Airbus UK v Port Talbot

Bangor v Llanelli

Caerfyrddin v Y Drenewydd

Dydd Sul 14 Awst

Castell-nedd v Aberystwyth