Osama bin Laden
Mae grŵp o ysgolion Prydeinig wedi rhoi’r gorau i gysylltiad addysgiadol gydag athrawon a disgyblion mewn tref ym Mhacistan lle’r oedd Osama bin Laden yn cuddio.
Roedd yr ysgolion yn Blackburn wedi bwriadu croesawu athrawon o Abbottabad draw i’r dref, ond maen nhw bellach wedi canslo’r ymweliad.
Mae e-bost mewnol aeth i law gwasanaeth newyddion y Press Association yn dangos fod arweinwyr yr ysgolion yn Blackburn y byddai plaid wleidyddol y BNP yn ceisio cymryd mantais o’r sylw pe bai athrawon o Abbottabad yn cyrraedd yr ysgolion.
Ond mae athrawon Abbottabad wedi dweud nad ydyn nhw’n cytuno â’r rhesymau y cafodd y cynllun ei ganslo, gan ddweud nad ydi Abbottabad yn ddrwg i gyd.
“Doedd gan bobol na disgyblion Abbottabad ddim byw i’w wneud ag Osama,” meddai Zafar Abbasi o ysgol Abbottabad.
“Mae’n anffodus iawn eu bod nhw wedi gweld cysylltiad rhyngom ni a therfysgwyr, ond yn waeth byth eu bod nhw wedi canslo rhaglen a oedd o fudd i fyfyrwyr.”
Tensiynau
Roedd y prosiect gan ysgolion Blackburn yn ymdrech i oroesi hiliaeth yn y dref sydd wedi gweld tensiynau rhwng trigolion gwyn a phobol o dras Asiaidd.
Roedd disgyblion eisoes wedi anfon cerddi a chyfarchion at ei gilydd, ac roedd disgwyl i athrawon o Abbottabad ymweld â’r ysgol.
Dywedodd y Cyngor Prydeinig eu bod nhw eisoes wedi gwario tua £30,000 ar y prosiect dan y cynllun Cysylltu Dosbarthiadau.
Yn ôl llefarydd ar eu rhan roedden nhw “wedi trafod ag athrawon a phenderfynu dod a’r cynllun i ben ychydig ynghynt”.