Mae arweinwyr busnes wedi rhybuddio y gall y streic gan 750,000 o athrawon, darlithwyr, gweithwyr sifil a gweithwyr eraill yfory gael “effaith sylweddol” ar yr adferiad economaidd.
Dywedodd Siambr Masnach Prydain y bydd y streic 24 awr dros bensiynau yn golygu y bydd rhaid i nifer o rieni golli diwnod o waith er mwyn edrych ar ôl eu plant.
Ychwanegodd cyfarwyddwr cyffredinol y siambr, David Frost, fod bron i hanner busnesau’r wlad eisoes yn meddwl dwywaith cyn cyflogi cyn-weithwyr yn y sector gyhoeddus.
“Problem y sector gyhoeddus ers amser hir yw nad yw’n fforddiadwy, ac mae’n hanfodol fod y diwygiadau yma ei wneud yn debycach i’r sector breifat,” meddai.
“Ni ddylai trethdalwyr orfod llenwi’r twll ym mhensiynau’r sector gyhoeddus sydd bellach wedi cyrraedd biliynau o bunnoedd.”
Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove, eisoes wedi dweud fod y streic yn “ddiangen, yn rhy gynnar, ac yn mynd i greu aflonyddwch”.
Bydd yn achosi “aflonyddwch mawr i deuluoedd sy’n gweithio’n galed,” meddai.
Ychwanegodd y bydd mwy na 3.200 o ysgolion awdurdodau lleol ar draws Prydain yn cau yfory, yn ogystal â 84 academi. Bydd 10,872 o ysgolion ar agor yn rhannol.
‘Methiant’
Wrth gyfarch cynhadledd blynyddol y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Birmingham ddoe, mynnodd y Prif Weinidog, David Cameron, fod y diwygiadau “yn deg”.
Ychwanegodd fod y newidiadau i bensiynau gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn “gytundeb da” oedd wedi sicrhau pensiynau fforddiadwy iddyn nhw am ddegawdau i ddod.
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, wedi annog yr undebau i barhau i drafod â’r llywodraeth, gan ddweud fod y streiciau yn “fethiant”.
“Rydw i’n deall pam fod athrawon mor grac â’r Llywodraeth,” meddai.
“Ond rhaid iddyn nhw ystyried ai creu aflonyddwch yn yr ystafell ddosbarth yw’r ffordd orau o sicrhau fod pobol yn deall eu dadleuon.
“Mae’n anodd ennill cefnogaeth y cyhoedd dros ddadl am bensiynau drwy greu trafferth i’r cyhoedd – yn enwedig tra bod y trafodaethau yn parhau.”