Christine Lagarde
Gweinidog cyllid Ffrainc, Christine Lagarde, yw pennaeth newydd y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) ar ôl i’r bwrdd gadarnhau ei phenodiad mewn cyfarfod yn Washington.
Christine Lagarde sy’n cymryd yr awenau o Dominique Strauss-Kahn, yw’r fenyw gyntaf yn y swydd. Fe fydd yn dechrau ei thymor pum mlynedd ar 5 Gorffennaf.
“Mae’r canlyniadau i mewn: Mae’n anrhydedd bod y bwrdd wedi fy newis i arwain y Grona Ariannol Rhyngwladol,” trydarodd Christine Lagarde ar ôl y cyhoeddiad.
Daeth y cadarnhad swyddogol ar ôl i’r Unol Daleithiau gefnogi Christine Lagarde.
“Fe fydd talent a phrofiad Christine Lagarde yn hollbwysig wrth arwain y sefydliad anhepgorol yma ar adeg hollbwysig i economi’r byd,” meddai ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau, Tim Geithner.
“Mae’n galonogol gweld ei bod hi wedi denu cefnogaeth ar draws aelodau’r gronfa, gan gynnwys yr economïau sy’n datblygu.”
Dywedodd Nicolas Sarkozy, Arlywydd Ffrainc, ei fod “wrth ei fodd bod menyw wedi cael y swydd ryngwladol bwysig yma”.
Dywedodd y Canghellor, George Osborne, fod ei phenodiad yn “newyddion da i Brydain a’r economi”.
“Hi oedd yr ymgeisydd gorau, a dyna pam fod Prydain wedi ei chynnig hi. Mae hi’n credu’n gryf mewn mynd i’r afael â diffygion ariannol a byw o fewn eich gallu i dalu amdano.”
Roedd y Prif Weinidog, David Cameron, wedi gwrthwynebu ymgais gan y cyn-Brif Weinidog, Gordon Brown, i fachu’r swydd.