Leighton Andrews
Mae’r broses o chwilio am ymgeiswyr ar gyfer swydd Comisiynydd y Gymraeg wedi dechrau o ddifri.

Mae’r rheoliadau derbyniwyd yn y Cynulliad heddiw yn sefydlu panel dethol  i gyfweld ag ymgeiswyr am y swydd ac egwyddorion i’w dilyn yn y broses apwyntio.

Maent hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch aelodaeth y panel dethol a fydd yn gyfrifol am gyfweld ymgeiswyr.

Fe fydd y panel a fydd yn argymell y penodiad i Brif Weinidog Cymru yn cynnwys:

• Aelod Cynulliad a enwebir gan un o bwyllgorau’r Cynulliad;

• Aelod o staff Llywodraeth Cymru;

• Asesydd annibynnol a pherson sydd â phrofiad o hybu defnydd o’r Gymraeg neu iaith arall.

Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, mai’r nod oedd hysbysebu swydd y Comisiynydd fis nesaf a chyhoeddi enw’r ymgeisydd llwyddiannus yn yr hydref.

Y Comisiynydd

Bydd y Comisiynydd yn gyfrifol am ddatblygu system reoleiddio newydd er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd.

Bydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ac eraill ar bolisi iaith a bydd yn gallu cynnal ymholiadau mewn i faterion yn ymwneud â’r iaith.

“Rwy’n awyddus i’r Comisiynydd gael ei benodi cyn gynted â phosib fel y gall gyfrannu’n fuan at y gwaith pwysig sydd i’w wneud,” meddai Leighton Andrews.

“Mae’r gwaith yn cynnwys symud yn gyflym o drefn bresennol cynlluniau iaith i’r drefn newydd o safonau iaith a gyflwynir o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

“Bydd penodiad cynnar hefyd yn caniatáu i’r Comisiynydd gael cyfrannu i’r broses o sefydlu ei swyddfa – mater sydd eisoes yn destun paratoadau yn sgil trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

“Edrychaf ymlaen at gydweithio gydag Aelodau’r Cynulliad i weld y Comisiynydd gael ei benodi cyn gynted â phosib, a chefnogi’r Comisiynydd wrth fynd i’r afael â’r rôl allweddol hon o sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu.”

Chwilio am bencampwr

Dylai Comisiynydd y Gymraeg newydd fod yn ‘bencampwr y bobl’, yn ôl llefarydd Plaid Cymru dros dreftadaeth.

“Y llynedd, penderfynodd y Cynulliad yn unfrydol i ddisodli model hen ffasiwn  Bwrdd yr Iaith gyda Chomisiynydd er mwyn cynyddu hygyrchedd a defnydd o’r iaith Gymraeg,” meddai Bethan Jenkins.

“Mae’r ddeddfwriaeth yma a gyflwynwyd gan Blaid Cymru mewn llywodraeth yn garreg filltir ac mae angen i’r Comisiynydd newydd gyflawni’r addewid yna o ffordd newydd o wneud pethau.

“Mae pobl a chymunedau angen i’r Comisiynydd fod yn bencampwr di-ofn o’u hawl moesol i ddefnyddio, gweld a chlywed yr iaith yn eu bywydau pob dydd.

“Gyda’r person cywir yn y swydd, am y tro cyntaf dylai dymuniad pobl i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg ddod yn gyntaf, yn hytrach na hunan-les busnesau a sefydliadau mawr.

“O’r person sydd eisiau talu bil nwy neu ddefnyddio ffôn symudol yn Gymraeg, i’r claf sydd angen triniaeth yn eu mamiaith, a’r rhiant sydd eisiau addysg trwy gyfrwng y Gymraeg i’w plentyn- bydd y bobl yma i gyd a mwy angen Comisiynydd bydd yn gefn iddyn nhw”

“Yn ystod ein tymor mewn llywodraeth cyflawnodd Plaid Cymru gamau mawr ymlaen i’r iaith. Yn ogystal â’r ddeddfwriaeth iaith Gymraeg sydd yn sefydlu Cymraeg fel iaith swyddogol, creon ni’r Coleg Cenedlaethol Cymraeg – y rhwydwaith AU trwy gyfrwng y Gymraeg, a strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg”

“Bydd y datblygiadau mawr dros yr iaith mae Plaid Cymru wedi cyflawni fel plaid mewn llywodraeth yn sicrhau ei fod yn cael ei chryfhau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym wedi rhoi pŵer i siaradwyr Cymraeg a chyflawni llawer yn nhermau gwneud yr iaith yn fwy cyffredin a mwy hygyrch i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.”