Mae cwmni Tinopolis o Lanelli wedi prynu A Smith & Co mewn cytundeb sydd mae’n debyg werth tua £60m.
Mae A Smith & Co yn gynhyrchwyr pennaf rhaglenni rhwydwaith Fox Rupert Murdoch, gan gynnwys fersiynau yr Unol Daleithiau o Ramsay’s Kitchen Nightmares a Hell’s Kitchen.
Dyma’r cytundeb mwyaf o’i fath i gwmni Tinopolis, sy’n cynhyrchu Question Time yn ogystal a sawl rhaglen i S4C gan gynnwys Wedi 3 a Wedi 7.
Yn ôl papur newydd y Guardian mae’r cwmni a ffurfwyd yn 1990 wedi bod yn chwilio am droedle yn yr Unol Daleithiau ers peth amser.
“Mae’r cytundeb yma yn golygu ein bod ni bellach yn gynhyrchydd reit fawr yn yr Unol Daleithiau,” meddai cadeirydd Tinopolis, Ron Jones.
“Rydyn ni wedi bod eisiau dod o hyd i ffordd i mewn ers peth amser ac wedi ystyried ambell i ddewis yn y gorffennol.
“Ond roedd rhaid dewis y cwmni iawn ar yr adeg iawn.”