Roedd gwestai annisgwyl yn Ysgol Dyffryn Teifi, Llandysul, brynhawn ddoe.

Galwodd seren yr X Factor, Rhydian Roberts, draw er mwyn gwylio tri pherfformiad gan rai o ddisgyblion yr ysgol.

Roedd yr ymweliad yn rhan o gyfres newydd gan y canwr fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn yr hydref, gyda’r nod o roi llwyfan i dalentau newydd Cymru.

Ar hyn o bryd mae Rhydian yn teithio o amgylch Cymru gyda chwmni cynhyrchu Avanti yn chwilio am berfformwyr artistig allai gymryd rhan yn y rhaglen.

Dywedodd wrth Golwg 360 bod rhaglenni o’r fath yn ffordd dda iawn o ddod o hyd i dalent newydd ymysg ieuenctid Cymru.

“Mae rhaglenni fel hyn yn bwysig gan ei fod yn rhoi’r cyfle i bobl berfformio o flaen cynulleidfa fawr,” meddai Rhydian Roberts wrth Golwg 360.


Rhydian Roberts (llun o'i wefan)
‘Dim cystadlu’

Yn eironig i un a wnaeth ei enw ar yr X Factor, dywedodd na fyddai’r rhaglen newydd ar ffurf cystadleuaeth.

Bydd sawl person yn cael y cyfle i berfformio a rhannu llwyfan gydag artistiaid byd enwog, meddai.

Dywedodd y byddai yn braf cael rhaglen talent sydd heb yr elfen gystadleuol yn perthyn iddi gan fod yna eisoes ddigon o bwyslais ar gystadlu yn y maes perfformio.

“Mae yna bobl sydd ddim yn hoffi’r elfen gystadleuol,” meddai Rhydian Roberts.

“Maen nhw ond yn mo’yn perfformio ac mae’r rhaglen yma’n cynnig y cyfle hynny. Bydden ni wedi gwerthfawrogi cyfle tebyg pan oeddwn i yn yr ysgol.

“Mae’r Eisteddfod yn rhoi profiadau gwerthfawr iawn i blant a phobl ifanc i berfformio ac roeddwn ni wedi manteisio ar y cyfleoedd hynny pan oeddwn i’n ifancach. Ond mae’n bwysig bod yna gyfleoedd eraill hefyd.”

Mae Rhydian Roberts yn credu bod digon o dalent yng Nghymru ar gyfer y rhaglen newydd ac roedd yn hapus iawn gyda’r perfformiadau cyntaf yn Llandysul.

“Rwy’n sicr y byddwn ni’n dod o hyd i lawer o dalent ar hyd a lled Cymru.

Mae yna hen ddigon o dalent yng Nghymru- mae perfformiadau disgyblion Ysgol Dyffryn Teifi wedi profi hynny’n barod.”

Euros Lloyd