David Cameron
Bydd David Cameron yn galw ar undebau’r sector gyhoeddus i beidio â streicio ddydd Iau a derbyn nad oes modd cynnal eu pensiynau fel ag y maen nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog y bydd yn cyflwyno dadl “rymus” wrth annerch cynhadledd y Gymdeithas Llywodraeth Leol yr wythnos yma.

Fe fydd yn mynnu nad yw’r trefniant presennol “yn deg ar y trethdalwr” deuddydd cyn i athrawon, darlithwyr a gweision sifil fynd ar streic.

Mae’r llywodraeth yn bwriadu torri pensiynau a gofyn i weithwyr dalu rhagor i mewn iddyn nhw, yn ogystal ag ymestyn yr oed ymddeol.

Mae’r Llywodraeth yn paratoi cynlluniau wrth gefn er mwyn ymdopi â’r gweithredu diwydiannol mwyaf ers ffurfio’r glymblaid.

Bydd hyd at 750,000 o weithwyr yn mynd ar streic 24 awr ddydd Iau.

Bydd y streiciau gan bedair undeb wahanol yn mynd yn eu blaenau er gwaethaf dwy awr o drafodaethau rhwng gweinidogion ac arweinwyr undebau ddydd Llun.

Dywedodd Mark Serwotka, arweinydd yr undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, fod y trafodaethau yn “ffars” ac nad oedd gan y Llywodraeth unrhyw awydd trafod.