Mae rhai doctoriaid yn bwriadu dadlau yn erbyn cyflwyno system o ganiatâd tybiedig i roi organau ar Ynysoedd Prydain.
Byddai caniatâd tybiedig yn cymryd yn ganiataol fod pawb o blaid rhoi eu horganau ar ôl marw os nad oedden nhw wedi dweud fel arall.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno mesur a fydd yn newid y gyfraith i system o ganiatâd tybiedig yn ystod y tymor presennol.
Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi bod o blaid newid y system ers 1999.
Ond bydd cynrychiolwyr yn eu cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw yn ystyried cynnig i newid y polisi. Mae rhai yn credu y byddai newid y system yn tanseilio hyder mewn doctoriaid.
Dr Sharon Blackford, dermatolegydd o Abertawe, sydd wrth wraidd yr ymgyrch i newid polisi Cymdeithas Feddygol Prydain.
“Rydw i a fy nghydweithwyr yn pryderu y byddai newid y system yn tanseilio hyder mewn doctoriaid,” meddai.
“Os ydi rhywun yn derbyn gofal dwys, efallai y bydd teuluoedd yn teimlo fod y doctoriaid eisiau eu gweld nhw’n marw er mwyn cael cymryd yr organau.
“Mae hefyd yn mynd yn erbyn y syniad mawr ar hyn o bryd, sef rhoi rhagor o reolaeth i gleifion.”
‘System well’
Cafodd mwy na 3,700 o organau eu rhoi ar draws gwledydd Prydain y llynedd – cynnydd o 5% ar y flwyddyn flaenorol – ond mae yna 8,000 ar y rhestr yn disgwyl trawsblaniad.
Dros y tair blynedd diwethaf mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi buddsoddi mewn nyrsys arbenigol sy’n adnabod rhoddwyr organau, ac wedi caniatáu i ddoctoriaid drafod y mater â theuluoedd pan mae marwolaeth yn debygol.
Dywedodd Dr Evan Harris, y doctor oedd wedi cynnig fod Cymdeithas Feddygol Prydain yn cefnogi’r system o ganiatâd tybiedig yn y lle cyntaf, ei fod yn system well i gleifion, doctoriaid a pherthnasau.
“Byddai’r mwyafrif llethol o bobol eisiau helpu i achub bywydau ar ôl marw, ond y broblem â’r system bresennol yw fod hanner y perthnasau yn gwrthod am nad ydyn nhw’n gwybod beth i’w wneud,” meddai.
“Mae caniatâd tybiedig yn gweithio yn y gwledydd sydd wedi ei gyflwyno.”