Cafodd chwech o bobol eu harestio heddiw yn Sir Gaerfyrddin ag Abertawe gan swyddogion sy’n ymchwilio i rwydwaith gwyngalchu arian werth £14m.
Roedd 60 o ymchwilwyr o Adran Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, ar y cyd â swyddogion heddluoedd Dyfed-Powys a De Cymru, wedi chwilio naw adeilad yn Rhydaman, Pontarddulais, Caerfyrddin, Abertawe, Llanelli a Phont-henri.
Daw’r arestiadau ar ddiwedd ymchwiliad hirdymor gan yr Adran Gyllid a Thollau o’r enw ‘Operation Festival’.
Dywedodd cyfarwyddwr cynorthwyol yr ymchwiliad troseddol, Adrian Farley, fod y cyrch yn oriau man y bore yn targedu rhai sydd wedi eu drwgdybio o wyngalchu arian.
“Mae unrhyw ymgais i wyngalchu’r elw a wnaed drwy droseddau yn cael ei ystyried yn drosedd difrifol iawn gan yr Adran Gyllid a Thollau,” meddai.
“Mae ein gweithredoedd ni heddiw yn anfon neges glir i’r rheini sydd wedi cymryd rhan yn y math yma o drosedd.
“Fe fyddwn ni’n parhau i geisio cael gafael ar unrhyw un sy’n chwarae rhan mewn gwyngalchu arian.”
Cafodd dyn 60 oed a dynes 47 oed eu harestio yn Rhydaman, merch 21 oed ym Mhontarddulais, yn ogystal â dau ddyn 41 a 32 oed, a dynes 40 oed yn Sir Gaerfyrddin.
Chwiliodd yr heddlu dau adeiladu busnes a dau gartref yn Rhydaman, dau gartref yng Nghaerfyrddin, tŷ ym Mhontarddulais ac adeiladau busnesau yn Abertawe a Phont-henri.