Milly Dowler
Mae merch hynaf llofrudd Milly Dowler, Levi Bellfield, wedi dweud ei bod hi’n cydymdeimlo â’r teulu ac nad yw carchar yn “ddigon o gosb” i’w thad.
Wrth ysgrifennu at rieni a chwaer Milly Dowler, dywed Bobbie Bellfield, 20, fod ei thad yn “anghenfil” a’i bod yn teimlo’n “sâl” wrth feddwl ei bod hi’n perthyn iddo.
Cafodd Levi Bellfield ei garcharu am oes ddydd Gwener am lofruddio Milly Dowler, 13 oed, ond cwynodd teulu Milly Dowler fod yr achos llys wedi bod yn hunllef iddyn nhw.
Mewn llythyr agored, gyhoeddwyd ym mhapur newydd y Sunday Mirror, dywedodd Bobbie Bellfield ei fod yn ddrwg ganddi am beth oedd ei thad wedi ei wneud i’r teulu.
“Roeddwn i’n teimlo’n sâl pan gefais i wybod ei fod wedi lladd eich merch chi a doeddwn i ddim yn gallu gwylio wrth i chi siarad y tu allan i’r llys am yr uffern yr oedd rhaid i chi fynd drwyddo i gael cyfiawnder,” meddai.
“Rydw i’n meddwl eich bod chi’n gywir wrth ddweud fod angen ‘bywyd am fywyd’. Dyw bod dan glo ddim yn ddigon o gosb am beth y mae o wedi ei wneud.”
Ddoe dywedodd y cyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus wedi dweud fod angen ail-ystyried sut y mae dioddefwyr yn cael eu trin yn y llys ar ôl cyfaddef fod achos Milly Dowler yn codi “cwestiynau pwysig”.
Daw sylwadau Keir Starmer QC ar ôl i un o benaethiaid yr heddlu feirniadu’r ffordd y cafodd teulu’r ferch ysgol eu trin gan y system gyfiawnder.
“Mae angen atebion i’r cwestiynau rheini ac fe fyddwn ni’n cyfrannu i adolygiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder fydd yn ystyried beth sy’n cael ei wneud i gefnogi dioddefwyr,” meddai.