Arlywydd Asad
Mae llywodraeth Prydain wedi rhybuddio dinasyddion Prydeinig yn Syria i adael ar unwaith, wrth i derfysg ymledu yn y wlad.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi diweddaru ei chyngor teithio i ddweud y dylai pob dinesydd Prydeinig “adael nawr tra bod awyrennau masnachol yn dal hedfan i mewn ac allan o Syria.

Ac fe danlinellodd yn y cyngor na ddylai neb deithio i’r wlad.

“Dylai’r bobol hynny sy’n dewis aros yn Syrian, neu’r rhai sy’n ymweld â’r wlad yn erbyn ein cyngor ni, fod yn ymwybodol o’r ffaith ei bod hi’n annhebygol y gallai’r Llysgenhadaeth Brydeinig yn Damascus gynnig gwasanaeth arferol pe bai pethau’n torri i lawr ymhellach.

“Rydyn ni’n cynghori Prydeinwyr yn Syria i gadw llygad ar y sefyllfa, ac i gymryd cyfrifoldeb dros eu diogelwch eu hunain.

“Rydyn ni’n eu cynghori i adael y wlad nawr.”

Mae miloedd o bobol Syria wedi bod yn protestio ar y strydoedd, yn galw am newid y drefn lywodraethu.

Ers i’r protestiadau ddechrau ganol fis Mawrth eleni, mae’r Arlywydd Bashar Assad wedi gorchymyn i fyddin y wlad ymosod ar y bobol. Mae protestwyr yn dweud fod dros 1,400 o Syriaid wedi eu lladd, a 10,000 wedi eu carcharu.