Un o danciau byddin Prydain
Mae un o benaethiaid y Fyddin wedi mynnu heddiw y bydd y “balans cywir o brofiad” yn cael ei gynnal o fewn y sefydliad, er bod 1,000 o swyddogion yn gwirfoddoli i gymryd taliadau diswyddo.

Roedd bosys y Fyddin wedi gofyn a fyddai 500 o filwyr yn fodlon cymryd diswyddiadau gwirfoddol, ond maen nhw wedi derbyn 900 o geisiadau, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i feddiant papur newydd y Daily Telegraph.

“Fe fydd y Fyddin yn dewis amrywiaeth o bobol fel y mwyaf addas ar gyfer derbyn taliadau diswyddo gwirfoddol, a’r rheiny o ystod o adrannau gwahanol, o wahanol ranc a galluoedd, crefftau a phrofiad,” meddai llefarydd ar ran y Fyddin.

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gwrthod cadarnhau’r ystadegau.

Mae disgwyl i gyllideb amddiffyn ostwng o 8% dros y pedair blynedd nesa’. Mae’r Weinyddiaeth Amddifyn hefyd yn bwriadu cael gwared â 25,000 o weithwyr erbyn 2015, ac fe fydd nifer y rheiny sy’n cael eu cyflogi gan y Fyddin yn lleihau o 7,000 i 95,500.