Burma
Mae llywodraeth Burma wedi rhoi’r bai ar rebeliaid ethnig Kachin am ddechrau wythnos o ymladd ar hyd ffin ogledd-ddwyreiniol y wlad gyda China.

Dyma’r datganiad cynta’ gan y llywodraeth ormesol ers iddyn nhw ddechrau ymladd gyda Byddin Annibyniaeth Kachin ar Fehefin 1, gan orfodi o leia’ 10,000 o bobol i adael eu cartrefi.

Mae rebeliaid wedi rhoi’r bai ar y llywodraeth am ymosod arnyn nhw, ar ôl iddyn nhwthau wrthod gadael yr ardal strategol.

Mae byddin 8,000 o filwyr y Kachin yn un o nifer o fyddinoedd bychain yn Burma sy’n ymladd dros fwy o ryddid yn y wlad.