milwyr yn Affganistan
Mae dau ffrwydriad ymyl ffordd yn Affganistan wedi lladd pedwar giard diogelwch a oedd yn tywys confoi NATO i ddwyrain y wlad.

Fe ddigwyddodd y ffrwydriadau yn rhanbarth Ghazni ar hyd priffordd sy’n rhedeg i gyfeiriad y safle milwrol sy’n cael ei ddefnyddio gan filwr o wlad Pwyl sy’n rhan o ymgyrch NATO yn y wlad.

Fe daniwyd y bomiau o fewn dwyawr i’w gilydd wrth i’r confois basio, gan ladd pedwar o bobol o Affganistan a oedd yn gweithio fel contractwyr diogelwch.

Hefyd yn Ghazni, mae NATO yn honni bod ei luoedd ef wedi lladd “nifer o” wrthwynebwyr mewn brwydr ynnau yn gynharach ddoe. Doedd NATO ddim yn fodlon rhoi mwy o fanylion.

Yn ddiweddarach, roedd NATO yn dweud fod un o filwyr y cynghreiriaid wedi ei ladd yn ne Affganistan.

Hyd yma y mis hwn, mae 31 o filwyr rhyngwladol wedi cael eu lladd yn Affganistan.