Mae athrawon ar draws Cymru a Lloegr wedi pleidleisio o blaid streicio heddiw.
Mae aelodau undebau Undeb Cenedlaethol yr Athrawon a Chymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr wedi penderfynu gweithredu yn ddiwydiannol er mwyn ceisio gorfodi Llywodraeth San Steffan i droi cefn ar newidiadau i’w pensiynau.
Yn ôl yr undebau fe fydd y newidiadau yn golygu fod athrawon yn gweithio oriau hirach, yn talu rhagor i mewn i’w pensiynau ond yn derbyn llai pan maen nhw’n ymddeol.
Mae disgwyl i’r athrawon streicio ar 30 Mehefin, gan effeithio ar filiynau o ddisgyblion a miloedd o ysgolion yng Nghymru a Lloegr.
Roedd canlyniad pleidlais Undeb Cenedlaethol yr Athrawon yn dangos fod 92% o blaid streicio.
Fe fydd y gweithgor yn cyfarfod yfory er mwyn penderfynu a fyddwn nhw’n bwrw ymlaen â’r streic.
Pleidleisiodd 83% o aelodau Cymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr o blaid streicio.
“Rydw i’n credu fod hyn yn dangos pa mor grac yw ein haelodau ni ynglŷn â’r newidiadau yma i’w pensiynau nhw,” meddai ysgrifennydd cyffredinol Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, Christine Blower.
“Mae’n dangos pa mor benderfynol yw athrawon fod eu pensiynau yn cael eu gwarchod.”