Mae’n bosibl y bydd cannoedd o filoedd o athrawon, gweision sifil a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus yn mynd ar streic ddiwedd y mis.

Mae aelodau tri undeb wedi bod yn pleidleisio ar gynnig i weithredu ar y cyd yn erbyn toriadau mewn swyddi a phensiynau a rhewi cyflogau – ac fe fydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’r wythnos yma.

Gallai hyd at 750,000 o weithwyr gymryd rhan yn y streic a fyddai’n debyg o gael ei chynnal ddiwrnod ola’r mis.

Byddai’n golygu’r anghydfod diwydiannol mwyaf ers blynyddoedd wrth i’r Llywodraeth ac undebau gweithwyr sector cyhoeddus fynd benben â’i gilydd.

Fe fydd dau o’r undebau athrawon mwyaf, yr ATL a’r NUT, yn cyhoeddi canlyniadau eu pleidleisiau ddydd Mawrth.

Mae’r ddau undeb yn pryderu ynghylch cynlluniau a fydd yn gorfodi athrawon i weithio’n hirach, talu mwy o gyfraniadau pensiwn, a derbyn llai pan fyddan nhw’n ymddeol.

‘Dewis arall’

Fe fydd yr undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn cyhoeddi canlyniad ei bleidlais ddydd Mercher, gyda swyddogion yn hyderus o bleidlais o blaid.

“Mae’n haelodau’n gwybod bod popeth y maen nhw wedi gweithio drosto o dan fygythiad, ac maen nhw’n pleidleisio i ddweud bod dewis arall,” meddai’r ysgrifennydd cyffredinol Mark Serwotka.

“Mae’r Llywodraeth yn ceisio beio a chosbi gweithwyr y sector cyhoeddus am argyfwng economaidd y mae gweinidogion a’u hymgynghorwyr yn gwybod iddo gael ei achosi gan farusrwydd a diffyg hid yn y sector ariannol.

“Pe baen ni’n buddsoddi yn ein heconomi a mynd i’r afael â’r gwir ddihirod sy’n osgoi talu bilynau o bunnau mewn trethi, fyddai dim angen inni dorri ceiniog oddiar wario cyhoeddus.”

Mae undebau eraill yn ogystal, gan gynnwys y GMB, wedi bygwth gweithredu diwydiannol yn ddiweddarach yn y flwyddyn os na ddeuir i gytundeb ynghylch pensiynau’r sector cyhoeddus.