Fe fydd y cwmni diodydd Diageo yn talu am hyfforddi 10,000 o fydwragedd i dynnu sylw merched beichiog at beryglon yfed alcohol.
Mae hyn yn rhan o ymgais Llywodraeth San Steffan i ddenu’r sector preifat i faes iechyd cyhoeddus.
Meddai’r gweinidog Iechyd Cyhoeddus Ann Milton: “Bydwragedd yw un o’r ffynonellau mwyaf dibynadwy o wybodaeth a chyngor i ferched beichiog.
“Mae’r addewid hwn yn enghraifft o sut y gall busnes weithio gyda staff y Gwasanaeth Iechyd i roi gwybodaeth werthfawr i ferched.
“Fe all wella eu hiechyd a hefyd rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w baban.”
Mae’r llywodraeth yn cynghori merched beichiog i osgoi yfed alcohol, neu o leiaf beidio ag yfed mwy nag un neu ddau uned, unwaith neu ddwywaith yr wythnos.
Diageo yw un o’r cwmnïau diodydd mwyaf, ac mae ei frandiau’n cynnwys Guinness, Johnnie Walker a Smirnoff.